Mae Cynnyrch Coed Meifod wedi datblygu o fod yn weithdy bychan yng Nghanolfan Hyfforddi Henllan yn 1971 i fod yn gynhyrchydd dodrefn gardd o ansawdd uchel sydd wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn. Mae’n cyflenwi nwyddau i’r diwydiant hamdden, gwersylloedd gwyliau, gwestai a thafarnau ac wrth gwrs, yn uniongyrchol i’r cyhoedd ar hyd a lled y DU.
Mae ein proses cydosod yn defnyddio cyfarpar y mae modd ei addasu i gwrdd ag anghenion unigol a symleiddio’r broses adeiladu.
Dim ond Pinwydd Coch Sgandinafaidd o ansawdd uchel o ffynonellau cynaliadwy a phinnau sefydlu dur gwrthstaen a ddefnyddir gennym. Mae tîm Meifod yn cynnig ystod eang o fyrddau, cadeiriau, meinciau a blychau plannu er mwyn harddu eich mannau eistedd.
Bydd ein holl gynnyrch yn cael eu trin o dan bwysau i’w hamddiffyn ac maent yn gryf a chadarn i wrthsefyll blynyddoedd o ddefnydd cyson.
Ffoniwch ni nawr ar 01745 816900